Gwybodaeth ar gyfer Graddedigion
Mae graddio yn garreg filltir gyffrous a phwysig i bob un ohonom – mae’r cyfnod yn dilyn graddio yn gyfnod o newid mawr, ac fe all hefyd fod yn gyfnod heriol wrth ichi ystyried eich camau nesaf a chystadlu am swyddi a chyfleoedd eraill.
Mae'r Brifysgol yn ymroddedig i'ch helpu i lwyddo wrth drawsnewid i yrfa raddedig.
Sut y gallwn ni helpu
Gall holl raddedigion Prifysgol Bangor fanteisio ar gyfrif 'am oes' ar ein llwyfan , lle gallwch chwilio am swyddi a chyfleoedd eraill, a chael mynediad at amrywiaeth o offer ac adnoddau defnyddiol am dair blynedd ar ôl graddio.
Mae ein cefnogaeth tair blynedd yn cynnwys:
- Mynediad i adnoddau gyrfaol a platfformau rhyngweithiol
- Sesiynau galw heibio gyda Ymgynghorwyr Gyrfaoedd
- Mynediad at ystod eang o gyfleoedd gwaith drwy CyswlltGyrfa
Os ydych chi wedi graddio o Brifysgol Bangor - Croeso!
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud i barhau / ailgysylltu â'n Gwasanaeth yw actifadu eich cyfrif Graddio trwy osod cyfrinair. Cliciwch ar y cyswllt a rhowch y cyfeiriad e-bost personol a roesoch i Brifysgol Bangor cyn i chi raddio.
E-bostiwch gyrfaoedd@bangor.ac.uk am fwy o wybodaeth.
Facebook: /
Instagram: /
LinkedIn: /