18ËêÑÇÖÞÎçÒ¹¸£Àû

Fy ngwlad:
""

Cyrsiau Byr a DPP mewn Ymwybyddiaeth Ofalgar yn y Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar

Yng Nghanolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol Bangor, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac ehangu ymwybyddiaeth ofalgar — o gyrsiau rhagarweiniol i hyfforddiant proffesiynol a datblygiad parhaus. P'un a ydych chi am feithrin ymwybyddiaeth ofalgar yn eich bywyd eich hun neu ddatblygu'r sgiliau i addysgu eraill, mae ein rhaglenni'n cyfuno dysgu trwy brofiad, addysgu sydd wedi ei lywio gan ymchwil, a phwyslais cryf ar ymarfer personol.

Archwiliwch ein dau lwybr dysgu isod
 

Addysgu Ymwybyddiaeth Ofalgar

Mae’r llwybr Addysgu Ymwybyddiaeth Ofalgar yn cynnig hyfforddiant proffesiynol a datblygiad parhaus i'r rhai sy'n dymuno addysgu ymwybyddiaeth ofalgar mewn lleoliadau clinigol, addysgol neu gymunedol. Gan dynnu ar ymarfer da a gydnabyddir yn rhyngwladol ac arbenigedd hirsefydlog y Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar, mae'r cyrsiau hyn yn darparu hyfforddiant sylfaenol a hyfforddiant uwch i athrawon, yn ogystal â chyfleoedd DPP.

Mae ein rhaglenni'n pwysleisio ymarfer personol fel sail cymhwysedd addysgu, gan gyfuno dysgu trwy brofiad, dealltwriaeth ddamcaniaethol ac ymarfer addysgu dan oruchwyliaeth. Maent yn addas ar gyfer athrawon ymwybyddiaeth ofalgar, gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol, addysgwyr, ac eraill sy'n integreiddio ymwybyddiaeth ofalgar yn eu gwaith.

Drwy ddull datblygiadol, mae cyfranogwyr yn mireinio'r wybodaeth, y sgiliau a'r ymgorfforiad sydd eu hangen i addysgu gyda dilysrwydd, sensitifrwydd ac uniondeb moesegol.
 

Dysgu Ymwybyddiaeth Ofalgar

Gellir meithrin ymwybyddiaeth ofalgar fel ffordd o fyw — gan gefnogi llesiant, gwytnwch, ystyr a chysylltiad gwell mewn bywyd o ddydd i ddydd. Mae ein cyrsiau byr Dysgu Ymwybyddiaeth Ofalgar yn cyflwyno cyfranogwyr i sylfeini ymwybyddiaeth ofalgar trwy ddysgu drwy brofiad, ymarfer dan arweiniad ac ymholiad adfyfyriol.

Mae'r cyrsiau hyn wedi'u cynllunio ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno archwilio ymwybyddiaeth ofalgar ar gyfer datblygiad personol, i leihau straen ac i wella ymwybyddiaeth emosiynol. P'un a ydych chi'n gwbl newydd i ymwybyddiaeth ofalgar neu'n ceisio ehangu eich ymarfer presennol, mae ein rhaglenni sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn tynnu ar ddegawdau o brofiad ymchwil ac addysgu yng Nghanolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar (CMRP) Prifysgol Bangor.

Drwy sesiynau strwythuredig, cefnogir cyfranogwyr i integreiddio ymwybyddiaeth ofalgar i weithgareddau dyddiol ac i ddatblygu sgiliau sy'n gwella hunanofal a thosturi wrth ddod o hyd i ystyr dyfnach ym mywyd bob dydd.
 

Comisiynu Rhaglenni Pwrpasol

chwilio am greu profiad dysgu wedi eu deilwra ar gyfer eich sefydliad? Dewch i ddarganfod sut mae CMRP yn dylunio rhaglenni ôl-raddedig, cyrsiau byr a chyfleoedd CPD i ddiwallu anghenion amrywiol lleoliadau proffesiynol.

Comisiynu Rhaglenni Pwrpasol

Cyrsiau Byr a Hyfforddiant DPP yn Prifysgol Bangor

Chwilio am ragor o ffyrdd i ddysgu a datblygu? Archwiliwch ystod lawn o gyrsiau byr a rhaglenni CPD Prifysgol Bangor.

Cyrsiau Byr a Hyfforddiant DPP | Prifysgol Bangor