Yn ddiweddar, croesawodd Prifysgol Bangor yr actores Joanna Scanlan, sydd wedi ennill BAFTA, i siarad mewn dangosiad arbennig o Joy, ffilm ddarlledwyd gynta鈥 ar Netflix yn 2024. Agorodd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn Pontio, gyda sesiwn Holi ac Ateb ddifyr, roeddwn i鈥檔 ei gadeirio. Daeth y digwyddiad ag aelodau'r cyhoedd, staff y brifysgol a myfyrwyr ynghyd. Cafwyd safbwyntiau cyfoethog gan y cyhoedd, a chafwyd awyrgylch meddylgar a chyfforddus wnaeth lunio trafodaeth difyr.
Mae'r ffilm yn adrodd hanes rhyfeddol genedigaeth IVF gyntaf y byd, ond yr hyn wnaeth fy nghyffwrdd i fwyaf, oedd nid yn unig cyflawniad gwyddonol - ond y pwysau emosiynol a gariwyd gan y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a wnaeth hyn yn bosibl.
Dyma rannu ychydig o fy myfyrdodau ar y drafodaeth a gafwyd yn ystod y noson, i mi roedd y digwyddiad yn cynnig llawer mwy na phrofiad sinematig. Roedd y ffilm yn addysg werthfawr o empathi, gwaith t卯m a realiti emosiynol sy鈥檔 bodoli wrth ymarfer clinigol.
Ffilm sy'n addysgu
Mae ffilm yn cael ei chydnabod fwyfwy mewn addysg feddygol am ei gallu i oleuo ochr ddynol gofal iechyd. Mae鈥檙 ffilm Joy yn gwneud hyn yn bwerus. Er ei bod wedi'i fframio o amgylch datblygiad clinigol arloesol, mae'r ffilm yn datgelu'r gost bersonol a ddioddefwyd gan Syr Robert Edwards 鈥 cyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor, ynghyd 芒鈥檌 gydweithwyr, Patrick Steptoe a Jean Purdy. Daeth eu hymrwymiad gyda beirniadaeth gyhoeddus, gwrthodiad proffesiynol a phwysau enfawr.
Mae'r profiadau hyn yn adlewyrchu'r heriau y mae clinigwyr yn eu hwynebu heddiw. Mae Arolwg Hyfforddiant Cenedlaethol y GMC (2025) yn tynnu sylw at lefelau cynyddol o feddygon preswyl sy鈥檔 cwyno eu bod wedi gor-flino, yn dioddef o flinder emosiynol neu/ac anaf moesol. Mae gwylio Joy yn ein hannog i ystyried y llafur emosiynol cudd y tu 么l i arloesi, gwneud penderfyniadau cymhleth ynghyd 芒 gofal cleifion.
Does dim angen di-ystyrru empathi
Yn ystod y dangosiad, siaradodd Joanna Scanlan yn agored am bortreadu tosturi, ansicrwydd moesol a gwydnwch. Atgyfnerthodd ei myfyrdodau yr hyn y mae tystiolaeth bellach yn ei ddangos yn glir: nid yw cyfathrebu, gwaith t卯m ac empathi yn sgiliau i鈥檞 di-ystyrru鈥攎aent yn gymwyseddau clinigol hanfodol.
Mae'r ffilm yn dangos sut y gall arweinyddiaeth gref, gwerthoedd sy鈥檔 cael ei rannu ymysg t卯m sy鈥檔 cydlynnu amddiffyn staff rhag gofid emosiynol a gor-flino yn y pendraw. Mae'r ffactorau amddiffynnol hyn yn cyd-fynd 芒 fframweithiau damcaniaethol fel damcaniaeth hunanbenderfyniad, sy'n pwysleisio ymreolaeth, cymhwysedd a pherthynas fel sylfeini ar gyfer lles.
Adnabod pawb wrth eu henwau
Thema bwysig a godir yn y ffilm yw'r risg o ddweud 鈥榥a鈥 wrth gleifion eraill. Yn Joy, mae Robert Edwards yn neilltuo rhifau cleifion er mwyn cywirdeb ymchwil, ond mae'n adnabod pob menyw wrth ei henw ac yn deall eu stori. Mae hyn yn adlewyrchu tensiwn sy鈥檔 bodoli yng ngofal iechyd cyfoes: er bod angen anonymeiddio, gall dadbersonoli achosi niwed gwirioneddol.
Mae iaith yn llunio diwylliant. Pan fydd clinigwyr yn cyfeirio at berson fel 鈥測r apendics yng i ngwely rhif 3,鈥 mae empathi yn gwaethygu. Cyffyrddodd ein trafodaeth gyda Joanna Scanlan 芒 pha mor hawdd y gall y pellhau hwn ddigwydd o dan bwysau, a sut mae angen ymarfer bwriadol i gadw gofal yn ddynol.
Gwneud yr annioddefol yn oddefol
Mae un o'r llinellau mwyaf cofiadwy o'r ffilm yn s么n am 鈥渨neud yr annioddefol yn oddefol.鈥 Cysylltodd y teimlad hwn ein sgwrs yn naturiol 芒 Schwartz Rounds (grwpiau strwythedig ar gyfer staff sy鈥檔 gweithio ym myd iechyd a gofal cymdeithasol) sy'n cynnig mannau strwythuredig i staff fyfyrio ar effaith emosiynol gofalu am gleifion. Dangoswyd bod y sesiynau hyn yn lleihau gor-flino, yn meithrin diogelwch seicolegol ac yn cryfhau cysylltiad鈥攇an adlewyrchu'n union yr hyn y mae Joy yn ei bortreadu, sef pwysigrwydd cefnogaeth ac agosatrwydd 芒 chleifion.
Ystyriaethau ar gyfer Ysgol Feddygol Gogledd Cymru
Tanlinellodd y dangosiad a'r sesiwn holi ac ateb ymrwymiad Ysgol Feddygol Gogledd Cymru at addysg feddygol dosturiol a myfyriol. Drwy integreiddio cyfryngau naratif i'r cwricwlwm, rydym yn helpu myfyrwyr i gysylltu hyfforddiant clinigol 芒'r profiadau dynol byw sy'n sail i ofal iechyd.
Mae Joy yn ein hatgoffa ni, er bod gwyddoniaeth yn newid bywydau, mai dynoliaeth sy'n cynnal y bobl sy'n ei cyflwyno鈥檙 gofal.