Mr David Jones FRCS, RCS Ed (Orth) – Llawfeddyg orthopaedig ac arweinydd meddygol, ²õ²â‵µ cael ei anrhydeddu am ei gyfraniad eithriadol at wasanaeth cyhoeddus ym maes iechyd.
Mae Mr David Jones FRCS, FRCS Ed (Orth) yn llawfeddyg orthopedig nodedig ac mae wedi gweithio trwy gydol ei yrfa i ddatblygu gofal orthopedig a thrawma yn gyffredinol ac orthopedig plant yn benodol. Daw o Iwerddon yn wreiddiol ac astudiodd feddygaeth ym Mhrifysgol Manceinion. Cafodd ei hyfforddiant orthopedig yn Ysbyty Sant Bartholomew, Llundain cyn symud i Fangor, lle arweiniodd y ³Ùî³¾ a sefydlodd yr Uned Ddamweiniau arloesol yn Ysbyty Gwynedd, model a gydnabuwyd yn ddiweddarach fel y safon aur ledled y Deyrnas Unedig. Aeth ymlaen i weithio fel llawfeddyg orthopedig ymgynghorol yn y Great Ormond Street Hospital for Children. ²Ñ²¹±ð‵µ gyn-Athro Hunterian ac yn aelod o The Royal College of Surgeons of England, yn Llywydd y British Orthopaedic Association ac yn llywydd Cymdeithas Orthopedig Cymru, mae David wedi cyhoeddi'n eang, wedi darlithio'n rhyngwladol, ac er ei fod wedi ymddeol bellach, mae'n parhau i gyfrannu at addysg feddygol, hanes meddygaeth a gwaith elusennol sy'n ymwneud â phlant.
Benjamin Pritchard PLY – Rhwyfwr Paralympaidd a chyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor, ²õ²â‵µ cael ei gydnabod am ei gyflawniadau eithriadol a’i daith ysbrydoledig.
Mae Benjamin Pritchard yn athletwr ysbrydoledig ac yn gyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor, graddiodd yn 2013 gydag LLB yn y Gyfraith cyn mynd ymlaen i gael llwyddiant mawr mewn rhwyfo. Wedi ei eni a'i fagu yn y Mwmbwls, de Cymru, roedd Benjamin yn feiciwr a thriathletwr cyn i ddamwain feicio yn 2016 ei adael wedi ei barlysu o'r canol i lawr. Yn ystod cyfnod adsefydlu yn Ysbyty Stoke Mandeville, darganfu rwyfo a chododd yn gyflym trwy'r rhengoedd, gan ymuno â’r GB Para Rowing Team yn 2017. Gwnaeth Benjamin ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf yn 2019, ac mae wedi cynrychioli Prydain Fawr mewn sawl pencampwriaeth ers hynny, gan ddod yn bencampwr Ewrop, yn ddeiliad recordiau byd ac Ewropeaidd, ac yn bencampwr y byd. Uchafbwynt penodol oedd ennill medal aur am sgwlio sengl dynion PR1 yng Ngemau Paralympaidd Paris 2024, a gosod record Paralympaidd newydd. Mae ei benderfyniad, ei wydnwch a'i ragoriaeth fel athletwr yn parhau i ysbrydoli athletwyr ledled y Deyrnas Unedig.
Dr Leanne Cullen-Unsworth – Gwyddonydd morol, arweinydd cadwraeth, a chyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor, ²õ²â‵µ cael ei chydnabod am ei gwaith arloesol ym maes cadwraeth a chynaliadwyedd morwellt.
Mae Dr Leanne Cullen-Unsworth yn wyddonydd, cadwraethwr ac arweinydd ysbrydoledig, graddiodd o Brifysgol Bangor gydag MSc mewn Gwarchod yr Amgylchedd (2001). Cafodd ei ³ó±ð²Ô·É¾±â€µµ un o 100 o Ferched 2023 y BBC, mae hi'n llais arloesol ym maes cadwraeth y ³¾Ã´°ù a chynaliadwyedd. Fel Prif Swyddog Gweithredol project Seagrass, Leanne ²õ²â‵µ arwain ymdrechion byd-eang i amddiffyn ac adfer dolydd morwellt - ecosystemau hanfodol sy'n cefnogi pysgodfeydd, bioamrywiaeth a gwytnwch hinsawdd. Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad o ymchwil rhyngddisgyblaethol, mae ei gwaith yn pontio gwyddorau amgylcheddol, gwyddorau cymdeithasol a gwyddorau economaidd i hyrwyddo cadwraeth sy'n cynnwys pobl fel rhan o'r ecosystem. Mae Leanne yn eiriolwr brwd dros natur a chenedlaethau'r dyfodol, mae ³ó¾±â€µµ parhau i godi ymwybyddiaeth fyd-eang o gadwraeth morwellt a'i gyfraniad hanfodol at ddiogelu ein planed.
Judith Batchelar OBE – Arweinydd yn y diwydiant bwyd a hyrwyddwr cynaliadwyedd, ²õ²â‵µ cael ei chydnabod am ei chyfraniad at ysgolheictod, arloesi ac arweinyddiaeth ym meysydd bwyd, ffermio a chynaliadwyedd.
Mae Judith Batchelar OBE yn enw blaenllaw ym myd bwyd, ffermio a chynaliadwyedd; mae ³ó¾±â€µµ fiocemegydd a maethegydd sydd wedi treulio dros 40 mlynedd yn trawsnewid diwydiant bwyd y Deyrnas Unedig. Ar ô±ô dechrau ei gyrfa ym maes cynhyrchion fferyllol a dysgu, ²ú³Ü‵µ gweithio i Bass, Mars a Marks & Spencer, cyn ymuno â Sainsbury's fel cyfarwyddwr brand (2004-2021), gan yrru arloesi, ansawdd a chynaliadwyedd. Mae Judith wedi ymrwymo'n llwyr i gynnydd amgylcheddol a chymdeithasol, ac mae ³ó¾±â€µµ ymwneud â nifer o sefydliadau, gan gynnwys UKCEH, Defra, Royal Botanic Gardens Kew, the British Nutrition Foundation, The Nature Conservancy, ac mae ³ó¾±â€µµ gadeirydd y bwrdd cynghori Healthy and Sustainable Places Data Services ym Mhrifysgol Leeds. Roedd Judith yn Brif Feirniad yng ngwobr hyfforddiant arloesedd ac arweinyddiaeth Prifysgol Bangor ym mis Ebrill 2023. Mae ³ó¾±â€µµ gymrawd yr Institute of Food Science and Technology ²¹â€™r Royal Society of Arts a dyfarnwyd OBE iddi yn 2015 am wasanaethau i ffermio a'r diwydiant bwyd.
Bydd Seremonïau Graddio’r Gaeaf yn digwydd dros dridiau, gan ddathlu llwyddiannau myfyrwyr o bob cwr o'r brifysgol ochr yn ochr â'r graddedigion er anrhydedd nodedig hyn.
Mae rhagor o wybodaeth am Seremonïau Graddio’r Gaeaf ar gael yn: /graduation