Mae Gareth Jones, a anwyd yn Llanelwy, ac sy'n cael ei adnabod gan wylwyr teledu fel Gaz Top, yn fwyaf adnabyddus am ei waith fel cyflwynydd rhaglenni teledu a rhaglenni gwyddoniaeth i blant megis How 2 a Get Fresh.
Gwthiodd Gareth ei hun i'r eithaf gan nofio mewn llynnoedd a chronfeydd dŵr o'r de i’r gogledd mewn tair wythnos. Cafodd yr her ei gwneud yn gyfres deledu mewn tair rhan gan y cwmni teledu o Gaernarfon, Cwmni Da. Fel rhan o’r project hwn, cafodd tri ymchwilydd o'r Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol gyfle i roi cyngor gwyddonol ffisiolegol a seicolegol iddo am nofio mewn dŵr oer.
Mae Alex Friend yn ymchwilydd PhD ar ei flwyddyn olaf yn astudio Ffisioleg Cerebrofasgiwlar ac Amgylcheddol. Mae Alex yn ymchwilio i sut mae'r corff yn ymateb i amgylcheddau eithafol gyda ffocws penodol ar lif y gwaed i'r ymennydd.
Eglurodd Alex: “Roedd fy ngwaith ar y project yn cynnwys cynnal arbrawf gwyddonol bach i amlygiad dŵr oer wrth fesur tymheredd craidd y corff a thymheredd croen Gareth. Roedd hyn yn rhoi cyfle iddo brofi'r symptomau a fyddai'n datblygu wrth i'w gorff oeri mewn dŵr oer.
“Fe wnaethon ni fesur tymereddau ei gorff a’i groen yn Llyn Padarn ar ddiwrnod cynnes iawn pan oedd tymheredd y dŵr oddeutu 22C. Yna fe wnaethon ni lenwi pwll padlo bychan gyda dŵr llyn oer a gostwng y tymheredd i tua 15C fel y gallai Gareth brofi’r symptomau y deuir ar eu traws mewn tymereddau oerach, megis y rhai y byddai'n dod ar eu traws yn ystod yr her.
“Fe wnaethon ni hefyd fesur nerth gwasgu ei ddwylo yn y ddau senario i ddangos sut mae oerfel yn effeithio ar allu ei gyhyrau. Rhoddodd yr arbrofion gyfle hefyd i Gareth ofyn cwestiynau am nofio mewn dŵr oer yn ddiogel.â€
Mae Seren Evans, sydd hefyd yn ymchwilydd PhD ar ei blwyddyn olaf, yn astudio effaith risg anafiadau yn Rygbi'r Undeb. Mae Seren yn therapydd tylino chwaraeon cymwysedig, a bu’n rhoi cyngor i Gareth ar strategaethau adferiad gan gynnwys ymarferion ymestyn, buddion tylino a maeth.
Swyddog Datblygu Ymchwil ac Arloesi yw Dr Sophie Harrison sy’n gweithio ym maes gweithgarwch corfforol a pherfformiad fel rhan o broject y Rhwydwaith Geltaidd Arloesi Gwyddorau Bywyd Uwch. Rhoddodd Sophie gyngor i Gareth ynglŷn â chadw’n holliach yn ystod ei her ynghyd â rhoi cyngor am faeth iddo.
Bydd y gyfres, o’r enw yn cael ei darlledu ar S4C y mis yma, a bydd modd gweld y rhaglen gyntaf am 9pm ar 29 Hydref. Bydd Alex a Seren i’w gweld yn yr ail bennod, sy’n cael ei darlledu am 9pm ar 5 Tachwedd.
Dysgwch fwy am anturiaethau Gareth yn www.garethjones.tv/nofioadre.html