18ËêÑÇÖÞÎçÒ¹¸£Àû

Fy ngwlad:

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio ym Mhrifysgol Bangor

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio un o’n rhaglenni Cymdeithaseg yma ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd â ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi.

Cofiwch ddilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael yr holl ddiweddariadau, newyddion a digwyddiadau ar y gweill. Edrychwn ymlaen at eich cwrdd yn fuan a dymunwn y gorau i chi wrth i chi baratoi ar gyfer eich astudiaethau.

Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Cymdeithaseg

Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein tîm ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.

Yn yr ysgol rydym yn cynnal nosweithiau pitsa, cwis a mynd ar dripiau allan i lefydd gwahanol, yn ddiweddar aethom ar drip i farchnad Nadolig Manceinion.

Gwyliwch ein fideo

a headshot of Dr cynog prys, Senior Lecturer in Finance
Fideo: Llongyfarchiadau gan Cynog Prys, uwch Darlithydd mewn Cymdeithaseg

Llogyfarchiadau ar eich cynnig i ddod i astudio Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Bangor, Doctor Cynog Prys dwi, a dwi yn uwch ddarlithydd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol.
Felly mae Cymdeithaseg yn faes hynod ddiddorol i astudio ynddo yn y brifysgol. 

Yma da ni trio gwneud synnwyr o natur a threfn cymdeithas ac yn chwilio am atebion i heriau y problemau mawr yn hyd yma Mangor.

Gewchi ofal da gyda ni fel staff, da ni cael cyfle gwych i ddod i nabod ein myfyrwyr yn ystod y tair blynedd maen nhw yn astudio yma. 

Mae Bangor hefyd yn le hynod braf i fyw ynddo. Mae na gymuned iaith Gymraeg hynod fywiog yma, lle mae pobl yn cael lot fawr iawn o hwyl a sbri ochr yn ochr efo gwaith academaidd maen nhw yn dweud, felly ia da ni gobeithio gweld chi ym Mangor yn y dyfodol.i!

Myfyriwr yn gwisgo sbectol haul yn edrych ar ei ffôn symudol, yn pwyso yn erbyn wal

Ymunwch â 'Campus Connect'

Byddwch yn gallu ymuno ag ymgeiswyr eraill a dod yn rhan o gymuned Bangor cyn cyrraedd hyd yn oed! Byddwch yn gallu cofrestru i ymuno â 'Campus Connect' pan fydd yr ap yn mynd yn fyw ym mis Chwefror. Yn yr ap, bydd modd gofyn cwestiynau, sgwrsio gyda myfyrwyr presennol a gwneud ffrindiau ag ymgeiswyr eraill ar eich cwrs ac yn y llety o'ch dewis. Cewch wahoddiad i ymuno â'r ap dros e-bost, a chewch hefyd rif adnabod Prifysgol Bangor, y byddwch ei angen i gofrestru.

Cwrdd â rhai o'ch darlithwyr

Dr Corinna Patterson

 

Dr Corinna Patterson

Mae cymdeithaseg yn llywio pob agwedd ar fy mywyd - mae'n fy ngalluogi i ddeall pobl fel unigolion, mae'n hysbysu beth rwy’n ei wneud, beth rwy’n ei fwyta, beth yw fy mlaenoriaethau, sut rwy’n pleidleisio, a sut rwy’n ymgysylltu â natur, diwylliant a phobl o bob cefndir.

Mae'n gyfredol ac yn gyffrous i ddeall y materion sy’n effeithio ar gymdeithas heddiw

Popeth - mae'n eich galluogi i archwilio unrhyw fater gyda lens chwilfrydig a beirniadol

Cymryd rhan mewn clybiau myfyrwyr a mynd allan i’r cefn gwlad hardd - cofleidiwch yr holl agweddau ar fywyd myfyriwr.

Dr Hefin Gwilym

 

Dr Hefin Gwilym

Nid yw fy maes pwnc erioed wedi bod yn fwy perthnasol. Mae sut rydym yn mynd i'r afael â materion megis yr argyfwng tai a'r heriau yn y GIG yn bryderon mawr, a gall Polisi Cymdeithasol gynnig atebion i'r problemau hynny a phroblemau eraill.

Rwyf erioed amser wedi bod â diddordeb mewn sut mae cymdeithas yn cael ei llywodraethu a pha bolisïau sy'n gwneud y gwahaniaethau mwyaf i bethau fel tlodi ac anghydraddoldeb. Mae Polisi Cymdeithasol yn archwilio'r meysydd hyn ac yn cynnig atebion i rai o brif broblemau cymdeithas mewn meysydd megis tai a lles.

Rydw i’n mwynhau addysgu am feysydd amserol a chyfoes wrth fynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb yng nghymdeithas y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Rydw i’n ffodus iawn bod gen i fyfyrwyr o bedwar ban byd yn fy nosbarthiadau ac rydw i’n mwynhau clywed eu straeon a'u profiadau ynglŷn â pholisïau cymdeithasol mewn meysydd megis iechyd ac addysg.

Rydw i’n mwynhau rhyngweithio â'r myfyrwyr a dysgu o'u profiadau o wladwriaethau lles ledled y byd. Mae'n wych gweld myfyrwyr yn cymryd rhan mewn trafodaethau, yn enwedig ar ôl i mi roi cyflwyniad am faes amserol.