18岁亚洲午夜福利

Fy ngwlad:
Bringing communities together

Dod 芒 chymunedau ynghyd o fewn myfyrwyr Ysgol y Celfyddydau, Diwylliant a Ieithoedd

Mae project Dod 芒 Chymunedau Ynghyd wedi trawsnewid bywyd myfyrwyr yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau yn ystod blwyddyn academaidd 2024鈥25. Gyda chefnogaeth Cronfa Bangor, mae myfyrwyr wedi mwynhau cyfleoedd sy'n cyfoethogi eu hastudiaethau, yn cryfhau cyflogadwyedd, ac yn creu atgofion parhaol.

Yr hyn sydd wrth wraidd y fenter yw dosbarthiadau meistr proffesiynol mewn sawl maes creadigol megis gwneud ffilmiau, cyfansoddi cerddoriaeth a chyfarwyddo ar gyfer y teledu. Rhoddodd y sesiynau hyn fynediad uniongyrchol i fyfyrwyr at arbenigwyr yn y diwydiant, gan gynnig mewnwelediadau ymhell y tu hwnt i'r hyn a geir yn yr ystafell ddosbarth. Un uchafbwynt oedd gweithdy gyda'r cyfansoddwr John Metcalf, lle bu鈥檙 myfyrwyr yn trafod ei waith a chael mewnwelediad amhrisiadwy i dechnegau cyfansoddi. Sesiwn gofiadwy arall oedd sesiwn yng nghwmni鈥檙 addysgwr cerddoriaeth Berwyn Jones, a fu鈥檔 ysbrydoli鈥檙 myfyrwyr gyda dulliau ymarferol o wneud addysg gerddoriaeth yn hygyrch. Fel y dywedodd Ava, sy鈥檔 fyfyrwraig yn y drydedd flwyddyn, 鈥淩oedd cael clywed be mae o wedi ei wneud yn ystod ei yrfa yn ysbrydoli rhywun."

Aeth y rhaglen ati hefyd i feithrin ymdeimlad o gymuned wrth i fyfyrwyr a staff rannu profiadau. Daeth myfyrwyr a staff ynghyd mewn gweithdy Llythrennedd Bwyd dan arweiniad Cegin y Bobl er mwyn dysgu sut i wneud bara a dysgu am arferion bwyd cynaliadwy, gan ennyn brwdfrydedd a galwadau ar i hyn gael ei wneud yn rhan o'r cwricwlwm. Yn y cyfamser, aeth myfyrwyr llenyddiaeth Saesneg ar ymweliad 芒 Llyfrgell John Rylands ym Manceinion, a chael ymgolli yng nghanol llawysgrifau prin a thestunau hynafol. Yn achos Hadeel, sy鈥檔 fyfyrwraig MA, roedd y profiad yn teimlo 鈥渇el teithio trwy amser,鈥 gan greu cysylltiad pwerus 芒 hanes.

Y tu hwnt i'r digwyddiadau hyn, bu ymchwilwyr 么l-radd ar eu hennill o gael cyfleoedd i rwydweithio sy鈥檔 hanfodol wrth sicrhau llwyddiant academaidd a phroffesiynol yn y dyfodol. Gyda'i gilydd, mae'r profiadau hyn wedi meithrin hyder, sgiliau, ac ymdeimlad o berthyn a fydd yn para ymhell wedi i鈥檙 myfyrwyr hyn raddio. Mae'r project yn dangos sut mae haelioni cyn-fyfyrwyr drwy gyfrwng Cronfa Bangor yn creu ecosystem fywiog o ddysgu ac wir yn creu cymuned. Bydd y myfyrwyr yn gadael Bangor nid yn unig gyda gradd, ond gyda rhwydweithiau proffesiynol, sgiliau ymarferol, ac atgofion annwyl 鈥 a bydd y pethau hyn yn sylfaen y gallant fanteisio arnynt yn eu gyrfaoedd ac, ymhen amser, eu trosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol.

Dywedodd Dr Elena Hristova, arweinydd y project a darlithydd ym maes Ffilm a'r Cyfryngau: 

Fel yr un a roddodd fod i鈥檙 project Dod 芒 Chymunedau Ynghyd, hoffwn ddiolch i Gronfa Bangor am eu harweiniad ac am wneud y project hwn yn bosibl. Mae staff yr Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau wedi cynllunio profiadau gwerth chweil iawn a chyfoethogol i'n myfyrwyr, ac mae wedi bod yn fraint dod 芒'r profiadau hynny ynghyd o fewn un cynnig ysgol gyfan. Profiad gwerthfawr ac ysbrydoledig iawn oedd gweld y cyffro a deimlai ein myfyrwyr wrth ddod i gyswllt 芒鈥檙 naill a鈥檙 llall yn ogystal 芒 dod i gyswllt 芒 gweithwyr proffesiynol ac arbenigwyr o wahanol ddiwydiannau. Maen nhw wir wedi manteisio ar y cyfle i adeiladu cymuned oddi fewn ac oddi allan i'r Brifysgol a rhannu'r profiadau a'r cyfleoedd hynny gyda鈥檙 gymuned ehangach o gyn-fyfyrwyr.

Ymchwilwyr 么l-raddedig yn cyflwyno eu hymchwil mewn cynadleddau academaidd ac yn datblygu eu rhwydweithiau proffesiynol

Myfyrwyr israddedig yn mynychu dosbarthiadau meistr proffesiynol ac uwch a gweithdai ymarferol gydag arbenigwyr ac ymarferwyr ym meysydd ffilmio ffeithiol a ffuglen, drama, ysgrifennu cerddoriaeth, arwain cerddorfa a recordio sain

Myfyrwyr yn cymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu cymhwysol mewn archifau, g诺yliau ffilm, stiwdios cynhyrchu, amgueddfeydd a gweithdai

Diwylliant ymchwil israddedig yn cael ei ddathlu gyda鈥檙 Antholeg Israddedig a Chylch Trafod Ymchwil yn Sioe Diwedd Blwyddyn